2015 Rhif 1227 (Cy. 81)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Ysgol Uwchradd y Dwyrain (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 2 o Ddeddf Addysg 2002. Mae erthygl 2 yn darparu nad yw rheoliad 4(2), (3) a (4) o Reoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009 yn gymwys i gorff llywodraethu Ysgol Uwchradd y Dwyrain. Bydd hyn yn caniatáu i’r corff llywodraethu wneud newidiadau i ba bryd y mae sesiynau’r ysgol yn dechrau ac yn dod i ben, gan gynnwys pa bryd y mae’r diwrnod ysgol yn dechrau ac yn dod i ben o 1 Mehefin 2015 ymlaen, yn hytrach nag ar ddechrau tymor ysgol neu flwyddyn ysgol. Mae erthygl 3 yn pennu bod y Gorchymyn yn cael effaith tan 31 Awst 2015.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.


2015 Rhif 1227 (Cy. 81)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Ysgol Uwchradd y Dwyrain (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2015

Gwnaed                                  20 Ebrill 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       24 Ebrill 2015

Yn dod i rym                          1 Mehefin 2015

Yn unol ag adran 4(2) o Ddeddf Addysg 2002([1]) (“y Ddeddf”), mae corff llywodraethu Ysgol Uwchradd y Dwyrain (“y corff llywodraethu”) wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol a’r personau hynny y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol, gan gynnwys rhieni disgyblion sydd wedi eu cofrestru yn yr ysgol a’r staff sy’n gweithio yn yr ysgol;

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, ar ôl rhoi sylw i’r materion a nodir yn adran 1(2) o’r Ddeddf, y gall gweithredu gan y corff llywodraethu ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn gyfrannu at godi’r safonau addysgol a gyrhaeddir gan blant yng Nghymru;

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 2(1) o’r Ddeddf([2]), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, ar gais y corff llywodraethu, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ysgol Uwchradd y Dwyrain (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2015 a daw i rym ar 1 Mehefin 2015.

Esemptiad o’r Rheoliadau Sesiynau Ysgolion

2. Nid yw rheoliad 4(2), (3) a (4) o Reoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009([3]) yn gymwys i gorff llywodraethu Ysgol Uwchradd y Dwyrain([4]) ar Heol Casnewydd, Caerdydd CF3 3XG.

Y cyfnod amser

3. Bydd y Gorchymyn hwn yn cael effaith tan 31 Awst 2015.

 

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

20 Ebrill 2015

 



([1])           2002 p. 32.

([2])           Breiniwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn adrannau 1 i 5 yng Ngweinidogion Cymru gan baragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

([3])           O.S. 2009/572 (Cy. 54).

([4])           Rhif Cyfeirnod Unigryw’r Ysgol: 6814076.